Be' sy' na i neud yn yr ardal?
Rhodio a heicio yn un o ardaloedd mwyaf godidog Ogledd Cymru;
yn union o'r tŷ mae llwybr yn codi trwy'r coed i gyfeiriad
Llyn Tecwyn Isa’. O'r llyn mae llwybrau di-rif yn gwahodd
i'r mynyddoedd, rhai yn dipyn o her a rhai eraill yn hamddenol.
Mae gennym lawer o lyfrau cerdded.
I'r haul-addolwyr mae amryw draeth o fewn 20 munud yn y car - ac i chi sydd am gael lliw haul trosoch (heb unrhyw ddarnau gwyn) mae unig draeth noethlymunwyr swyddogol yng Nghymru o fewn cyrraedd - yn Nyffryn Ardudwy.
Castelli - wrth gwrs, yn Harlech a Criccieth.
Rhywle anghyffredin - trïwch bentre' Eidalaidd Portmeirion.
A llawer mwy... gweler <http://www.gwynedd.gov.uk/> a chliciwch ar Ymweld ag Eryri.
