Ynes Gifftan
saesneg | cymraeg | almaeneg | ein cynnig | amdanom ni| lleoliad | pethau i neud | prisiau a thermau | cyswllt

Dal a diddordeb? Beth allem ni cynnig i chi, felly?

Living room

Wrth aros am gyfnod yn Yr Hen Farcdy cewch gyfle i ddadflino ac ymlacio. Mae'r olygfa o'r ddwy loft yn hardd ac yn wledig, a chawn amrywiaeth eang o adar yn bwydo yn yr ardd. Mae un o’r stafelloedd yn un dwbl a'r llall naill ai yn ddwbl neu yn ddau sengl, a does dim tal ychwanegol i unigolion sy'n dod atom. Mae'r gwlâu dan gynfasau cotwm (mae Jupp yn hoff iawn o smwddio) ac fe gewch dduvet neu blancedi.
Rydym ni'n dau yn hoff iawn o fwyd, felly cewch wledd yma. Mae brecwast wrth fwrdd y gegin (yn rhan hynaf y tŷ - tua 1700) ac rydym yn cynnig amrywiaeth o gynhyrch lleol a bara cartref - John yw'r pobydd. I ginio (opsiynol) mae'r cig oen o gorsydd y Dwyryd, a'r ffowls organig lleol, yn arbennig... ac i bwdin ceir darten neu grymbl pan fydd ein heirin duon, 'fala ac eirin y eu tymor.