Mountains
saesneg | cymraeg | almaeneg | ein cynnig | amdanom ni| lleoliad | pethau i neud | prisiau a thermau | cyswllt

Yr Hen Farcdy, Llandecwyn, Harlech, Gwynedd, LL47 6YG

ty

Os 'da ch'n chwilio am Wely a Brecwast traddodiadol mae'n debyg na fyddech yn gyffyrddus yn aros efo ni. Yn ddiweddar rydym wedi atgyweirio ac adnewyddu'r hen ffermdy - Yr Hen Farcdy - ac wedi dewis symlrwydd dros chintz, ffriliau a llenni net, namyn un ar y pen grisiau cefn sy'n cuddio'r poteli nwy. Yn wir, bydd rhai yn ffeindio’n chwaeth ni’n llym. Roedd y ddwy ystafell wely gosod yn rhy fach i geisio gwasgu en-suites i ryw gornel, felly mae'r ddwy yn rhannu un ystafell ymolchi. Mae'n siŵr bydd hyn yn atal rhai ohonoch, er ein bod ni'n hysbysebu hyn fel elfen gyfeillgar i'r amgylched. Does dim lolfa breifat i'n gwesteion chwaith! Lawr grisiau mae cegin fawr a lolfa fwy (gyda llawr derw, sofas lledr a stof llosgi coed i gynhesu corff ag enaid ar nosweithiau oer) ac mae gwesteion, felly, yn rhannu'r tŷ. A dyma ni efallai wedi colli mwy o gwsmeriaid. O, mae gennym dau gi hefyd. Mae Nel a Ngwasi yn byw yn un o'r siediau ac yn anaml y dônt i'r tŷ, ond maent yn hoff iawn o bobl ac maent yn debyg och llyfu chi!